Pecyn Pos Mathemateg - 2

SKUPPM-2
ISBN9781783903757
Weight400g
Regular price £15.99
Regular price £15.99 Sale price £15.99
Sale Sold out
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Dyma'r ail mewn cyfres o dri phecyn o bosau i ddysgwyr llai hyderus, gyda'r nod o'u denu at syniadau mathemategol. Trwy ddefnyddio sefyllfaoedd bywyd bob dydd, iaith syml a delweddau lliwgar, maent yn meithrin gallu dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth, ac i wneud cysylltiadau rhwng syniadau mathemategol. Mae pedwar cymeriad - Asha, Cai, Hal a Lili - yn ein tywys drwy'r posau. 

Mae'r pecyn yn cynnwys 50 o gardiau dwyochrog, gyda'r naill ochr yn cynnig esboniad neu'n ymarfer cysyniad mathemategol, a'r llall yn cynnig 'her' i ymarfer ac ymestyn. Mae'r pecynnau wedi eu graddoli ar dair lefel, gyda'r pecyn cyntaf yn cynnwys yr heriau symlaf. Mae'r atebion ar gyfer y posau i gyd i'w canfod ar yr Hwb.