Mêts Maesllan: Cyfres Gyflawn

SKUMMCC
ISBN9781783900220
Pwysau2359g
Pris rheolaidd £79.99
Pris rheolaidd £79.99 Pris arbennig £79.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Yn anffodus mae 2 o lyfrau'r gyfres hon allan o stoc ar hyn o bryd. Gallwch brynu llyfrau eraill y gyfres fel llyfrau unigol, a gallwch chi hefyd brynu setiau o lyfrau unigol ar gyfer eu darllen mewn grŵp. Byddwn yn ailargraffu'r llyfrau sydd ddim ar gael ar hyn o bryd, ac rydyn ni'n disgwyl iddynt fod ar gael eto erbyn diwedd Gorffennaf 2022.

 

Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo plant yng Nghyfnod Allweddol 2 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol a phatrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978). Mae'r llyfrau a'r gweithgareddau yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau 10 ac 11 oed sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys rhai ffuglen, ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.

Mae'r llyfrau yn llyfrau byr rhwng 16 a 28 tudalen i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gwefan arbennig, https://pth.cymru/metsmaesllan ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.

Mae'r llyfrau a'r gweithgareddau wedi eu graddoli ar 4 lefel er mwyn datblygu sgiliau darllen a phob un yn adeiladu ar y lefel flaenorol.