Am le grêt (cam 2)

SKUDCHD-2-ALG
ISBN9781783904525
Pwysau100g
Pris rheolaidd £3.99
Pris rheolaidd £3.99 Pris arbennig £3.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Wyt ti wedi bod ar wyliau i lan y môr? Wyt ti wedi gweld siopau yn gwerthu cardiau post yno? Mae'n hwyl ysgrifennu am dy wyliau ar garden post a’i phostio yn ôl at dy deulu neu at ffrindiau! Mae'n ffordd wych hefyd o gofio am yr amser braf gest ti ar dy wyliau. Dyna’n union mae Wini yr Wylan yn ei wneud yn y stori hon.

Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 2 y gyfres.

Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg ac ar gamau cynnydd 1 a 2.

Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.