Canolfan Peniarth
  • Beth welwch chi? | What can you see?

*Fersiwn dwyieithog*

Cymeriadau hoffus a phoblogaidd byd Cyw sy'n ganolbwynt i'r adnodd unigryw hwn.

Prif nod y llyfr yw datblygu medrau llafar plant o oedran ifanc iawn, trwy gynnig cyfleoedd iddynt ddatblygu geirfa newydd gan ymestyn yr eirfa honno wrth drafod y lluniau a'r sefyllfaoedd a ddarlunir.  Cynlluniwyd y golygfeydd amrywiol gan gadw mewn cof nodweddion Deilliant 2 ar draws pedwar Maes Dysgu Proffil y Cyfnod Sylfaen.

Ar gyfer pob golygfa ceir;

  • braslun o brif nodweddion yr olygfa benodol honno
  • set o gwestiynau caeedig a phenagored i ysgogi trafodaeth
  • rhestr o eirfa benodol ar gyfer yr olygfa honno
  • ystod o syniadau am weithgareddau
  • cyfle i ddatblygu ymhellach nifer helaeth o sgiliau ymarferol, corfforol, annibynnol, creadigol, personol, ieithyddol a mathemategol y plentyn
  • tabl sy'n nodi union berthynas y gweithgareddau â Phroffil y Cyfnod Sylfaen

Cynnyrch Cysylltiedig:

Calendr Cyw

Calendr Cyw

Dyma galendr newydd sbon ar gyfer 2019!  Dyddiau difyr a gweithgareddau i bob mis gyda Cyw a'i ..

£9.99 Ac eithrio TAW: £9.99