Beth welwch chi? | What can you see?

SKUBWCh_WCYS
ISBN9781783900855
Pwysau1010g
Pris rheolaidd £9.99
Pris rheolaidd £9.99 Pris arbennig £9.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

*Fersiwn dwyieithog*

Cymeriadau hoffus a phoblogaidd byd Cyw sy'n ganolbwynt i'r adnodd unigryw hwn.

Prif nod y llyfr yw datblygu medrau llafar plant o oedran ifanc iawn, trwy gynnig cyfleoedd iddynt ddatblygu geirfa newydd gan ymestyn yr eirfa honno wrth drafod y lluniau a'r sefyllfaoedd a ddarlunir. Cynlluniwyd y golygfeydd amrywiol gan gadw mewn cof nodweddion Deilliant 2 ar draws pedwar Maes Dysgu Proffil y Cyfnod Sylfaen.

Ar gyfer pob golygfa ceir;

  • braslun o brif nodweddion yr olygfa benodol honno
  • set o gwestiynau caeedig a phenagored i ysgogi trafodaeth
  • rhestr o eirfa benodol ar gyfer yr olygfa honno
  • ystod o syniadau am weithgareddau
  • cyfle i ddatblygu ymhellach nifer helaeth o sgiliau ymarferol, corfforol, annibynnol, creadigol, personol, ieithyddol a mathemategol y plentyn
  • tabl sy'n nodi union berthynas y gweithgareddau â Phroffil y Cyfnod Sylfaen