Darllen y Dref

SKUAAYDDyD
ISBN9781783902194
Pwysau160g
Pris rheolaidd £3.99
Pris rheolaidd £3.99 Pris arbennig £3.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Gwaith cartref Roco a Zee yw mynd ar helfa lythrennau. Ym mhob cwr o'r dre mae llythrennau yn ymddangos yn y mannau mwyaf anhebygol. Tybed fedrwch chi eu gweld yn y stori?

Mae Darllen y Dref yn rhan o gyfres Archwlio'r Amgylchedd yn y dref - Cyfres 2. Cyfres yw hon sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref. Dyma gyflwyno Cyfres 2, sef 8 o straeon a cherddi gwreiddiol i blant yn y Cyfnod Sylfaen. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.

Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd.