Trin a Thrafod i Bobl Ifanc: Datblygu Sgiliau Cyfathrebu Cymdeithasol ac Emosiynol

SKUTATHIB-DSCCAE
ISBN9781783904143
Pwysau800g
Pris rheolaidd £42.99
Pris rheolaidd £42.99 Pris arbennig £42.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae Trin a Thrafod i Bobl Ifanc: Datblygu Sgiliau Cyfathrebu Cymdeithasol ac Emosiynol yn llyfr gwaith proffesiynol. Mae’n helpu addysgwyr a therapyddion sy’n darparu grwpiau mewn sgiliau cymdeithasol a sgiliau perthynas i blant hŷn ac oedolion ifanc ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol neu ymddygiadol. Mae’r adnoddau’n cynnwys fframwaith asesu, ffurflenni cynllunio a gwerthuso, 37 o ganllawiau sesiwn strwythuredig yn canolbwyntio ar hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, iaith y corff, sgiliau sgwrsio, sgiliau cyfeillgarwch a phendantrwydd, a’r holl daflenni a delweddau atodol angenrheidiol i gyflwyno’r sesiynau. Cyflwynir yr argraffiad Cymraeg hwn yn seiliedig ar ail argraffiad Saesneg o Talkabout for Teenagers: Social and Emotional Communication Skills, gyda darluniau a thaflenni llawn lliw, ac mae’n cynnwys cyflwyniad newydd gan Alex Kelly yn myfyrio ar ei phrofiadau hi ei hun o ddefnyddio’r adnoddau ers iddynt gael eu datblygu gyntaf.