Tŷ bach bach (cam 1)

SKUDCHD-1-TBB
ISBN9781783904464
Pwysau88g
Pris rheolaidd £3.99
Pris rheolaidd £3.99 Pris arbennig £3.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae Edi yr Epa yn byw mewn tŷ bach bach ac mae gan Edi lwyth o syniadau am bethau hoffai e gael yn ei dŷ bach bach. Mae gan Edi syniadau mawr! Ond oes lle i’r holl bethau yn y tŷ bach bach?

Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 1 y gyfres.

Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2. Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.