Y Ras (cam 1)

SKUDCHD-1-YR
ISBN9781783904471
Pwysau88g
Pris rheolaidd £3.99
Pris rheolaidd £3.99 Pris arbennig £3.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae Jac a Jo, y ddau fochyn, eisiau rhedeg ras. Mae Jim y ci hefyd eisiau rasio Jac a Jo. Tybed pwy fydd y cyflymaf? Tybed pwy fydd yn ennill y ras? A phwy fydd yn ail a thrydydd? Wyt ti’n barod i redeg y ras gyda Jac a Jo a Jim?

Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 1 y gyfres.

Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2. Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.