Ble wyt ti'n byw? (cam 2)

SKUDCHD-2-BWTB
ISBN9781783904563
Pwysau100g
Pris rheolaidd £3.99
Pris rheolaidd £3.99 Pris arbennig £3.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae’r byd yn llawn o wahanol dai. Yn y llyfr hwn, cei di flas ar rai o’r lleoedd hyn, sef lleoedd llawn lliw!  Tyrd i ateb y cwestiwn 'Ble wyt ti’n byw?'.

Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 2 y gyfres.

Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2.

Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.