Jac Codi Baw (cam 3)

SKUDCHD-3-JCB
ISBN9781783904570
Pwysau105g
Pris rheolaidd £3.99
Pris rheolaidd £3.99 Pris arbennig £3.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae Beti’r Bos yn brysur iawn yn yr ardd. Mae hi mor brysur fel ei bod hi wedi galw Jac Codi Baw i ddod i’w helpu. Ond ar ôl palu un twll yn yr ardd, mae Beti’r Bos a Jac Codi Baw yn dod o hyd i rywbeth cyffrous iawn ... map trysor! Ond tybed a fydd Beti a Jac Codi Baw yn ffeindio’r trysor? Ac os byddan nhw ... beth sydd wedi ei gladdu yn yr ardd?

Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 3 y gyfres.

Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2.

Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.