Pum parot lliwgar (cam 3)

SKUDCHD-3-PPLL
ISBN9781783904594
Pwysau105g
Pris rheolaidd £3.99
Pris rheolaidd £3.99 Pris arbennig £3.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Pum parot lliwgar yn eistedd yn y goeden, pum parot lliwgar yn hapus ac yn llawen... Os am wybod mwy am y pum parot lliwgar, sydd i fyny fry yn y goeden, gwna ddewis clyfar ac agor y llyfr a’i ddarllen!

Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 3 y gyfres.

Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2. Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.