Dyna chi dric: pecyn cam 1

SKUDCHD-C1
ISBN9781783904723
Pwysau602g
Pris rheolaidd £27.00
Pris rheolaidd £27.00 Pris arbennig £27.00
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys 7 llyfr ar gam 1 o'r gyfres ddarllen newydd sbon Dyna chi dric. Mae'r pecyn yn cynnwys y llyfrau canlynol:

  • Jac-y-do
  • Pry cop yn y bath
  • Rap y sach
  • Tŷ bach bach
  • Y Ras
  • Epa
  • Beth ydw i?

Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar draws tri cham. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl.

Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg ac ar gamau cynnydd 1 a 2. Adnodd gwych ar gyfer yr ysgol a'r cartref.