Tric a Chlic Cam 1

SKUTAC1
ISBN9781908395658
Pwysau10160g
Pris rheolaidd £380.00
Pris rheolaidd £380.00 Pris arbennig £380.00
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Cynllun ffoneg synthetig, systematig a dilyniadol i'r Cyfnod Sylfaen (Cam 1)

Cynllun sy'n:

  • addysgu sain a ffurf llythrennau
  • addysgu strategaethau adeiladu i ddarllen a thorri geiriau i sillafu
  • annog rhuglder a mynegiant wrth ddarllen o'r dechrau un
  • cynnig dulliau addysgu rhyngweithiol
  • atgyfnerthu'r camau yn rheolaidd
  • symud yn gyflym o un cam i'r llall

Ar gael yn Gymraeg yn unig

Gan nad oes gan lawer o ysgolion yriannau CD bellach, rydym wedi disodli'r Llawlyfr a'i CD rom o adnoddau gyda fersiynau digidol i'w lawrlwytho. Byddwch yn derbyn fersiwn pdf o'r Llawlyfr a ffeiliau hygyrch o'r adnoddau. Gyda'r bwriad o leihau ein heffaith amgylcheddol, nid yw'r copi papur a'r cryno ddisg bellach ar gael i'w prynu. Bydd prynu'r pecyn hwn yn ychwanegu'r llawlyfr ac adnoddau Cam 1 at eich lawrlwythiadau. Bydd ar gael unwaith y bydd eich archeb wedi'i hanfon.